Mae Cynghorau Sgiliau Sector (CSS)yn gyfrifol am gynnal a datblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y diwydiannau a’r sectorau y maent yn eu cwmpasu.
Mae SGC yn cael eu harwain gan ddiwydiant
Datblygir Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a rhanddeiliaid eraill i ddisgrifio’r cymwyseddau sy’n ofynnol mewn maes galwedigaethol. Mae’r CSS neu sefydliad arall sy’n pennu safonau yn gyfrifol am gydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu, cynnal a helpu i weithredu’r SGC .
Rhan allweddol o’r broses yw ymrwymiad cyflogwyr a rhanddeiliaid ar draws 4 gwlad y DU ac y mae’n ofynnol i’r CSS ymgynghori’n briodol ymhob un o’r 4 gwlad.
Proses ddatblygu nodweddiadol
Bydd CSS yn cydweithio â chyflogwyr i ddefnyddio proffil rolau (swydd-ddisgrifiadau) a phrofiad ymarferwyr y diwydiant i ddatblygu mapiau swyddogaethol a galwedigaethol.
Mapiau swyddogaethol – cânt eu datblygu i ddisgrifio bras weithgareddau gwaith sy’n digwydd ar draws y sector. Disgrifir y gweithgareddau gwaith mewn termau cyffredinol er mwyn adeiladu darlun o’r math o waith (swyddogaethau) a wneir gan aelod unigol o’r staff.
Mapiau galwedigaethol – cânt eu datblygu er mwyn mapio cwmpas cyfan y prosiect SGC . Maent yn rhestru’r holl fras-ddisgrifiadau o rolau swydd a dderbynnir ar bob lefel oddi mewn i sector.
Bydd yr arweiniad cam wrth gam rhyngweithiol (agor mewn ffenestr newydd) yn darparu cyflwyniad a chefndir i ddadansoddi egwyddorion Swyddogaethol a Galwedigaethol.
Cyflwynir drafft o SGC ar gyfer ymgynghori’n ehangach oddi mewn i’r diwydiant. Rhaid i SGC fod yn gymwys ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yn ogystal ag ar gyfer y sefydliadau mawrion. Mae’n hanfodol bod llawer o ymarferwyr mewn diwydiant yn cyflwyno adborth i ddatblygiad y SGC.
I ddysgu mwy am gefndir datblygu SGC edrychwch ar yr arweiniad cam wrth gam rhyngweithiol (agor ffenestr newydd)
Ar ôl adolygu’r SGC a ddatblygwyd
Mae CSS yn gyfrifol am sicrhau bod y SGC yn gyfoes ac yn adlewyrchu newid mewn deddfwriaeth ac arferion y diwydiant. Golyga hyn y bydd y SGC yn cael eu hadolygu fel y bo’n briodol i’r sector. Gan amlaf cynhelir adolygiadau bob 2/3 blynedd, gydag unrhyw newidiadau bach yn cael eu gwneud fel y bo’n briodol.
Os dymunwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â datblygu SGC yn eich diwydiant, cysylltwch â’r CSS perthnasol.